Acts 23:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Paul a ddyvot, Ny wybuum i, vroder, y vot ef yn Archoffeiriat: can ys bot yn escrivenedic’ Na velltithia Bennaeth dy popul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd Paul, Nis gwyddwn, frodyr, ei fod yn archoffeiriad, canys ysgrifenwyd, “Am bennaeth dy bobl ni ddywedi yn ddrwg.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ebe Paul, “Ni wyddwn, frodyr, ei fod yn Archoffeiriad; canys y mae’n ysgrifenedig, Am bennaeth dy bobl na ddywed yn ddrwg.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr archoffeiriad oedd efe: canys ysgrifenedig yw, Na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Frodyr,” meddai Paul, “doeddwn i ddim yn sylweddoli mai'r archoffeiriad oedd e. Mae'r ysgrifau'n dweud: ‘Paid dweud dim byd drwg am arweinydd dy bobl.’ ”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Paul, "Ni wyddwn, frodyr, mai'r archoffeiriad ydoedd; oherwydd y mae'n ysgrifenedig, 'Paid dweud yn ddrwg am bennaeth dy bobl.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, ei fod yn Arch‐offeiriad; canys y mae yn ysgrifenedig, Am benaeth dy bobl na ddywed yn ddrwg.