Acts 23:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pan ddeallawdd Paul vot y naill parth i’r popul yn Tsadduceit, a’r llall yn Pharisaieit, ef a lefawdd yn y Cycor, gan ddyvvedyt. Ha wyr vroder, My vi ’sy Pharisai, ac yn vap i Pharisai: am ’obeith a’ chyvodiad igeth y meirw im bernir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan wybod o Paul fod un rhan o’r Tsadwceaid, a’r llall o’r Pharisheaid, gwaeddodd yn y cynghor, Brodyr, myfi, Pharishead wyf, mab i Pharisheaid; am obaith ac adgyfodiad y meirw myfi a’m bernir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan wybu Paul fod y naill ran o’r Sadwceaid, a’r lleill o’r Phariseaid, dechreuodd weiddi yn y Sanhedrin, “Frodyr, Pharisead wyf fi, mab Phariseaid; am obaith ac atgyfodiad y meirw y’m bernir.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan wybu Paul fod y naill ran o'r Sadwceaid, a'r llall o'r Phariseaid, efe a lefodd yn y cyngor, Ha wŷr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Pharisead: am obaith ac atgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Paul yn gwybod yn iawn fod rhai ohonyn nhw'n Sadwceaid ac eraill yn Phariseaid, felly galwodd allan yng nghanol y Sanhedrin, “Frodyr, Pharisead ydw i, a dyna oedd fy nghyndadau. Dw i yma ar brawf am fy mod i'n credu fod y meirw'n mynd i ddod yn ôl yn fyw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sylweddolodd Paul fod y naill ran yn Sadwceaid, a'r llall yn Phariseaid, a dechreuodd lefaru'n uchel yn y Sanhedrin: "Frodyr, Pharisead wyf fi, a mab i Phariseaid. Ynglu375?n gobaith am atgyfodiad y meirw yr wyf ar fy mhrawf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phaul, yn gwybod fod un rhan o'r Saduceaid, a'r llall o'r Phariseaid, a waeddodd yn y Sanhedrin, O wyr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Phariseaid: am y Gobaith ac Adgyfodiad y Meirw y'm bernir i.