Acts 23:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y Tsadduceit a ddywedant, nad oes dim cyfodiad igeth, nag Angel, nac yspryt: a’r Pharisaiait a a ddefant bop vn or ddau.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys y Tsadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac adgyfodiad nac angel nac yspryd; ond y Pharisheaid a addefant y ddau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys fe ddywed y Sadwceaid nad oes atgyfodiad nac angel nac ysbryd, eithr maentumia’r Phariseaid hwynt i gyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y Sadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac atgyfodiad, nac angel, nac ysbryd: eithr y Phariseaid sydd yn addef pob un o'r ddau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Dydy Sadwceaid ddim yn credu fod atgyfodiad, nac angylion nac ysbrydion, ond mae'r Phariseaid yn credu ynddyn nhw i gyd.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r Sadwceaid yn dweud nad oes nac atgyfodiad nac angel nac ysbryd, ond y mae'r Phariseaid yn eu cydnabod i gyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y Saduceaid yn wir a ddywedant nad oes Adgyfodiad, nac angel nac yspryd; eithr y Phariseaid ydynt yn addef y ddau.