Acts 23:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y bu llefain mawr: a’r Gwyr‐llen o blait y Pharisaiait a g yv odesont i vyny dd, ac ymrysonesont, gan dddywedyt, Nid ym ni yn cael dim drwc yn y dyn hwn: can ys a’s bu i yspryt ai Angel ymiddan ac ef, nac ymladdwn‐ ni‐ a‐Dew ddim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu gwaedd fawr; ac wedi codi i fynu o rai o’r ysgrifenyddion o ran y Pharisheaid, ymrafaelasant, gan ddywedyd, Nid oes dim drwg a gawn yn y dyn hwn: ac os yspryd a lefarodd wrtho, neu angel —.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bu cynnwrf mawr, a chyfododd rhai o’r ysgrifenyddion a oedd o blaid y Phariseaid, ac ymegnïo, gan ddywedyd, “Ni chawn ni ddim drwg yn y dyn hwn; ac os llefarodd ysbryd wrtho, neu angel — — ”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu llefain mawr: a'r ysgrifenyddion o ran y Phariseaid a godasant i fyny, ac a ymrysonasant, gan ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn: eithr os ysbryd a lefarodd wrtho, neu angel, nac ymrysonwn â Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yna dwrw ofnadwy, gyda rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith oedd yn Phariseaid ar eu traed yn dadlau'n ffyrnig. “Dydy'r dyn yma ddim wedi gwneud unrhyw beth o'i le! Falle fod ysbryd neu angel wedi siarad â fe!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu gweiddi mawr, a chododd rhai o'r ysgrifenyddion oedd yn perthyn i blaid y Phariseaid, a dadlau'n daer, gan ddweud, "Nid ydym yn cael dim drwg yn y dyn hwn; a beth os llefarodd ysbryd wrtho, neu angel?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu gwaedd fawr, a chododd i fyny rai o'r Ysgrifenyddion oedd o ran y Phariseaid, ac a ymrysonasant, gan ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn: eithr pa beth os yspryd a lefarodd wrtho neu angel?