Acts 24:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC yn ol pemp die rnot, y daeth y waeret Ananias yr Archoffeiriat y gyd a’r Henafieit, ac Tertullus rryw areithiwr, yr ei a apar i esont ger bron y President yn erbyn Paul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar ol pum niwrnod, daeth yr archoffeiriad Ananias i wared, ynghyda rhai henuriaid ac areithiwr, rhyw Tertulus, y rhai a hyspysasant i’r rhaglaw yn erbyn Paul.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi pum niwrnod daeth Ananias, yr Archoffeiriad, i lawr gyda rhai henuriaid ac un Tertylus, dadleuydd, a rhoesant hysbysrwydd i’r rhaglaw yn erbyn Paul.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ôl pum niwrnod, y daeth Ananeias yr archoffeiriad i waered, a'r henuriaid, ac un Tertwlus, areithiwr; y rhai a ymddangosasant gerbron y rhaglaw yn erbyn Paul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bum diwrnod wedyn daeth Ananias yr archoffeiriad i Cesarea gyda rhai o'r arweinwyr Iddewig, a chyfreithiwr o'r enw Tertwlus. Dyma nhw'n cyflwyno'r cyhuddiadau yn erbyn Paul i'r llywodraethwr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pum diwrnod yn ddiweddarach, daeth Ananias yr archoffeiriad i lawr gyda rhai henuriaid, a dadleuydd o'r enw Tertulus, a gosodasant gerbron y rhaglaw eu hachos yn erbyn Paul.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar ol pum niwrnod, yr Arch‐offeiriad Ananias a ddaeth i waered, gyda rhai henuriaid ac areithiwr, rhyw Tertullus, y rhai a achwynasant wrth y Rhaglaw yn erbyn Paul.