Acts 24:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Paul, gwedy amneidio o’r President arnaw y amadrawddd a atebawdd, Y mae yn haws genyf atep troso vyhun, can vy‐bot yn gwybot dy vot ti lawer o vlyddynedd yn ynat ir genadl eth hon,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac attebodd Paul, ar ol amneidio o’r rhaglaw iddo i ddywedyd, Gan wybod mai er’s llawer o flynyddoedd yr wyt ti yn farnwr i’r genedl hon, yn galonog, o ran y pethau mewn perthynas â mi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd Paul, wedi i’r rhaglaw amneidio arno i lefaru: “Gan wybod dy fod di ers llawer blwyddyn yn farnwr i’r genedl hon, yn hyderus y gwnaf fy amddiffyn amdanaf fy hun,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phaul a atebodd, wedi i'r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i'r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r llywodraethwr yn troi at Paul a rhoi arwydd mai ei dro e oedd hi i siarad. Felly dyma Paul yn ateb: “Syr, o wybod eich bod chi wedi bod yn farnwr ar y genedl yma ers blynyddoedd lawer, dw i'n falch iawn mai o'ch blaen chi dw i'n amddiffyn fy hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna atebodd Paul, wedi i'r rhaglaw amneidio arno i lefaru: "Mi wn dy fod di ers llawer blwyddyn yn farnwr i'r genedl hon, ac am hynny yr wyf yn amddiffyn fy achos yn galonnog.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phaul a atebodd, wedi i'r Rhaglaw amneidio arno i lefaru, Gan i mi wybod dy fod yn farnwr i'r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr wyf yn siriol yn gwneyd fy ymddiffyniad,