Acts 24:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
can ys gelly wybot, nad oes anid dauddec die ernot er pan ðaethym i vyny dd i addoly i Caerusalem.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr amddiffynaf fy hun, a thi yn medru gwybod nad oes mwy na deuddeg niwrnod i mi er pan aethum i fynu i addoli yn Ierwshalem:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
am y gelli wybod nad oes fwy na deuddeng niwrnod er pan euthum i fyny i addoli yng Nghaersalem,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n ddigon hawdd i chi gadarnhau'r ffaith fod llai na deuddeg diwrnod wedi mynd heibio ers i mi gyrraedd Jerwsalem a mynd i addoli yn y deml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd gelli gael sicrwydd nad oes dim mwy na deuddeg diwrnod er pan euthum i fyny i addoli yn Jerwsalem.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a thi yn gallu gwybod nad oes mwy na deuddeg niwrnod er pan aethum i fyny i addoli yn Jerusalem: