Acts 24:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr cyffessy yty dd wyf hyn yma, mae yn ol y fforð (rhon y alwant vvy yn heresi) velly yr addolaf vi Ddew vy‐ tadae, sef gan gredy yn yr oll pethe r’ y scrivenir yn y Ddeðyf a’r Prophwyti,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond cyfaddefaf hyn i ti, mai yn ol y Grefydd yr hon a alwant “sect,” felly yr wyf yn gwasanaethu Duw ein tadau, gan gredu yr holl bethau y sydd yn ol y Gyfraith, ac a ysgrifenwyd yn y Prophwydi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond hyn a gyffesaf i ti, mai yn ôl y Ffordd, a alwant hwy yn sect, felly yr addolaf Dduw ein tadau, gan gredu pob peth sydd yn ôl y Ddeddf ac sy’n ysgrifenedig yn y Proffwydi,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau; gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a'r proffwydi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond, dw i yn cyfaddef i chi mod i'n addoli Duw ein cyndeidiau ni fel un o ddilynwyr yr hyn maen nhw'n ei alw'n sect, sef y Ffordd Gristnogol. Dw i'n credu popeth sydd yn y Gyfraith Iddewig ac yn ysgrifau'r Proffwydi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr wyf yn cyfaddef hyn i ti, mai yn null y Ffordd, a alwant hwy yn sect, felly yr wyf yn addoli Duw ein hynafiaid. Yr wyf yn credu pob peth sydd yn l y Gyfraith ac sy'n ysgrifenedig yn y proffwydi,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond hyn yr wyf yn ei addef i ti, mai yn ol y Ffordd a alwant hwy yn Sect, felly yr wyf fi yn gwasanaethu Duw ein Tadau, gan gredu yr holl bethau sydd yn ol y Ddeddf a'r pethau sydd yn ysgrifenedig yn y Prophwydi: