Acts 24:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr ei a ddylesynt vot yn gynnyrchiol rac dy vron, am cyhuddaw, a bysei ganddwynt ddim im erbyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond rhai Iwddewon o Asia, y rhai a ddylasent fod yn bresennol ger dy fron, a chyhuddo, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond rhai Iddewon o Asia, a ddylasai fod yma ger dy fron di i’m cyhuddo i, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn, —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di, ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i'm herbyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd yno Iddewon o dalaith Asia, a nhw ddylai fod yma i ddwyn cyhuddiad yn fy erbyn, os oes ganddyn nhw unrhyw reswm i wneud hynny!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd yno ryw Iddewon o Asia, a hwy a ddylai fod yma ger dy fron di i'm cyhuddo i, a chaniatu fod ganddynt rywbeth yn fy erbyn;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond rhai Iuddewon o Asia a'm cawsant, y rhai a ddylasent fod yn bresenol ger dy fron a gwneyd cyhuddiad, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn.