Acts 24:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy ei ’alw ef ir lle, e ddechreawdd Tertullus ei guhuddaw, gan ddywedyt, Can y ni vot yn byw yn dra heddychol oth bleit ti, a’ bot gwneythyr llawer o bethe gwiw, ir genedl hon drwy dy racddyall di,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan alwesid ef, dechreuodd Tertulus ei gyhuddo ef gan ddywedyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi ei alw ef ger bron, dechreuodd Tertylus ei gyhuddo gan ddywedyd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ei alw ef gerbron, Tertwlus a ddechreuodd ei gyhuddo ef, gan ddywedyd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna cafodd Paul ei alw i mewn, a dyma Tertwlus yn cyflwyno achos yr erlyniad i Ffelics: “Eich Anrhydedd. Dŷn ni'r Iddewon wedi mwynhau cyfnod hir o heddwch dan eich llywodraeth, ac mae gwelliannau mawr wedi digwydd yn y wlad o ganlyniad i'ch craffter gwleidyddol chi, syr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwyd yntau gerbron, a dechreuodd Tertulus ei erlyniad, gan ddweud:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan alwyd ef, Tertullus a ddechreuodd ei gyhuddo, gan ddywedyd,