Acts 24:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ai ynte dywedet yr ei hyn yma, a gawsant vvy ðim ancyfion ynof, tra sefeis yn y Cyngor,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
neu bydded i’r rhai hyn eu hunain ddywedyd pa anghyfiawnder a gawsant wrth sefyll o honof ger bron y cynghor,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
neu dyweded y rhain yma pa gamwedd, a gawsant ynof pan sefais ger bron y Sanhedrin,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Neu, dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Neu gadewch i'r dynion yma ddweud yn glir pa drosedd mae'r Sanhedrin wedi fy nghael i'n euog ohoni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
neu dyweded y rhain yma pa gamwedd a gawsant ynof pan sefais gerbron y Sanhedrin,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Neu bydded i'r rhai hyn ei hunain ddywedyd pa gamwedd a gawsant tra y sefais o flaen y Sanhedrin,