Acts 24:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
dieithr am y llef vnic hon, a ’r a lefeis yn sefyll yn ei plith vvy, sef Am gyfodiad igeth y meirw im bernir heddyw genwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
arall nag ynghylch yr un llef hon, yr hon a lefais pan yn eu plith y safwn, sef Am adgyfodiad y meirw myfi a fernir heddyw ger eich bron.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
onid am yr un llef honno a waeddais pan safwn yn eu plith, ‘Am atgyfodiad y meirw y’m bernir i heddiw gennych chwi.’ ”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith; Am atgyfodiad y meirw y'm bernir heddiw gennych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ai'r gosodiad yma wnes i pan o'n i'n sefyll o'u blaen nhw ydy'r broblem: ‘Dw i ar brawf o'ch blaen chi am gredu fod y meirw'n mynd i ddod yn ôl yn fyw’?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
heblaw'r un ymadrodd hwnnw a waeddais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith: 'Ynghylch atgyfodiad y meirw yr wyf ar fy mhrawf heddiw ger eich bron.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
oddieithr yr un llef hon, yr hon a waeddais pan yn sefyll yn eu plith, Am Adgyfodiad y Meirw y'm bernir i heddyw ger eich bron.