Acts 24:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan glybu Felix y pethae hynn, yr oedawdd ef wynt, gan ddywedyt, Pan wypwyf yn yspesach y pethae a perthyn ir ffordd hon, pan vo i Lysias y pen‐Captaen ddyvot yma, y dosparthaf eich mater.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond eu hoedi a wnaeth Ffelics, gan wybod yn fanylach y pethau ynghylch y Grefydd, gan ddywedyd, Pan fydd Lusias y milwriad, wedi dyfod i wared, penderfynaf eich matterion;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond gohiriodd Ffelix eu hachos, ac yntau’n gwybod yn lled fanwl am y Ffordd, gan ddywedyd, “Pan ddêl Lysias y capten i lawr, mi benderfynaf eich mater.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan glybu Ffelix y pethau hyn, efe a'u hoedodd hwynt, gan wybod yn hysbysach y pethau a berthynent i'r ffordd honno; ac a ddywedodd, Pan ddêl Lysias y pen‐capten i waered, mi a gaf wybod eich materion chwi yn gwbl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Ffelics yn deall beth oedd y Ffordd Gristnogol, a dyma fe'n gohirio'r achos. “Gwna i benderfyniad yn yr achos yma ar ôl i'r capten Lysias ddod yma”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gan Ffelix wybodaeth led fanwl am y Ffordd, a gohiriodd yr achos, gan ddweud, "Pan ddaw Lysias y capten i lawr, rhoddaf ddyfarniad yn eich achos."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Ffelix a ohiriodd eu hachos, gan wybod yn gywirach y pethau ynghylch y Ffordd, gan ddywedyd, Pan ddel Lysias y Milwriad i waered, mi a benderfynaf eich materion.