Acts 24:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mal ydd oedd ef yn dosparth am gyfiawnder, a’ chymmedroldep, ac am y varn y ddyvot, Felix a dd echrynawdd, ac a atebawdd, Does ymaith ar hyn o amser, anid pan gaffwy amser‐cyfaddas, mi alwaf am danat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chlywodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist Iesu: ac wrth ymresymmu o hono am gyfiawnder a diweirdeb a’r farn ar ddyfod, wedi myned yn ddychrynedig, Ffelics a attebodd, Am yr amser presennol, dos ymaith; ond hamdden a gymmeraf, a galwaf am danat;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fel yr oedd yntau yn ymresymu ynghylch cyfiawnder a diweirdeb a’r farn a fyddai, fe ddychrynodd Ffelix ac atebodd, “Ar hyn o bryd dos, ac wedi i mi gael amser cyfleus fe alwaf amdanat.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn a fydd, Ffelix a ddychrynodd, ac a atebodd, Dos ymaith ar hyn o amser; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi a alwaf amdanat.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth iddo sôn am fyw yn iawn yng ngolwg Duw, am ddisgyblu'r hunan, a'r ffaith fod Duw yn mynd i farnu, daeth ofn ar Ffelics. “Dyna ddigon am y tro!” meddai, “Cei di fynd nawr. Anfona i amdanat ti eto pan fydd cyfle.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond wrth iddo drafod cyfiawnder a hunan-ddisgyblaeth a'r Farn oedd i ddod, daeth ofn ar Ffelix a dywedodd, "Dyna ddigon am y tro; anfonaf amdanat eto pan gaf gyfle."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, diweirdeb, a'r Farn ddyfodol, Ffelix, wedi myned yn ddychrynedig, a atebodd, Am y presenol, dos ymaith; a phan y caffwyf amser cyfaddas mi a'th alwaf di ataf: