Acts 24:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd ef yn gobeithio hefyt y rhoddesit ariant iddaw gan Paul, er iddo ei ellwng ef: erwyð pa bleit yd avonodd ef am danaw yn vynychach, ac y chwedleuawdd wrthaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ar yr un pryd yn gobeithio y rhoddid arian iddo gan Paul; o herwydd paham hefyd, yn fynychach y danfonai am dano, ac y chwedleuai ag ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr un pryd gobeithio yr oedd y rhoddid arian iddo gan Baul; oblegid hynny anfonai amdano yn lled fynych, ac ymddiddan ag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul, er ei ollwng ef yn rhydd: oherwydd paham efe a anfonodd amdano yn fynychach, ac a chwedleuodd ag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddai'n anfon am Paul yn aml iawn i siarad gydag e, ond un rheswm am hynny oedd ei fod yn rhyw obeithio y byddai Paul yn cynnig arian iddo i'w ryddhau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr un pryd, yr oedd yn gobeithio cael cildwrn gan Paul, ac oherwydd hynny byddai'n anfon amdano yn lled fynych, ac yn sgwrsio ag ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ar yr un pryd yr oedd yn gobeithio y rhoddid arian iddo gan Paul; o herwydd paham hefyd efe a anfonodd am dano yn fynychach, ac a ymddyddanodd ag ef.