Acts 24:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy cerddet dwy vlwydd yn, y daeth Porcius Festus yn lle Felix: a’ Felix yn ewyllysio enill bodd yr Iuddaeon, a adawdd Paul yn rhwym.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond dwy flynedd wedi eu cyflawni, cafodd Ffelics olynydd, Porcius Ffestus; a chan ewyllysio ennill ffafr gyda’r Iwddewon, gadawodd Paul yn rhwym.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond ymhen ysbaid o ddwy flynedd derbyniodd Ffelix yn olynydd iddo Borcius Ffestus; a chan yr ewyllysiai osod yr Iddewon dan rwymau iddo, gado Paul yn garcharor a wnaeth Ffelix.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi cyflawni dwy flynedd, y daeth Porcius Ffestus yn lle Ffelix. A Ffelix, yn ewyllysio gwneuthur cymwynas i'r Iddewon, a adawodd Paul yn rhwym.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth dros ddwy flynedd heibio, a dyma Porcius Ffestws yn olynu Ffelics fel llywodraethwr. Ond gadawodd Ffelics Paul yn y carchar am ei fod eisiau ennill ffafr yr arweinwyr Iddewig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth dwy flynedd heibio, a dilynwyd Ffelix gan Porcius Ffestus; a chan ei fod yn awyddus i ennill ffafr yr Iddewon, gadawodd Ffelix Paul yn garcharor.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond wedi cyflawnu yspaid o ddwy flynedd, Ffelix a gafodd olynydd, Porcius Ffestus, ac yn ewyllysio enill ffafr gyda'r Iuddewon, Ffelix a adawodd Paul yn rhwym.