Acts 24:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hyn yð ym ni yn cydnabot yn h ollawl, ac ym‐pop lle, yr ardderchocaf Felix, y gyd a chwbyl ddiol vv ch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan mai llawer o heddwch sydd genym trwot ti, a diwygiadau yn cael eu gwneud i’r genedl hon trwy dy rag-welediad di, ymhob modd ac ymhob man y derbyniwn ef, O ardderchoccaf Ffelics, gyda phob diolch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Heddwch mawr a gawn trwot ti, a gwelliannau sydd i’r genedl hon trwy dy ddarbodaeth ym mhob modd ac ym mhob man, a derbyniwn hwynt, ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolchgarwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr, a bod pethau llwyddiannus i'r genedl hon trwy dy ragwelediad di, yr ydym ni yn gwbl, ac ym mhob man, yn eu cydnabod, O ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pobl ym mhobman yn cydnabod hyn, a dŷn ni'n hynod ddiolchgar i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Trwot ti yr ydym yn mwynhau cyflawnder o heddwch, a thrwy dy ddarbodaeth y mae gwelliannau yn dod i ran y genedl hon ym mhob modd ac ym mhob man. Yr ydym yn eu derbyn, ardderchocaf Ffelix, phob diolchgarwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan fod i ni lawer o heddwch trwot ti, a bod gwelliantau i'r genedl hon trwy dy rag‐ddarbodaeth di yn mhob modd ac yn mhob man, — yr ydym ni yn eu derbyn, O Ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolchgarwch.