Acts 24:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iuddaeon hvvythe hefyt a daeresant, gan ddywedyt vot y peth y moð hynny.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chyd-ymosod arno a wnaeth yr Iwddewon, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyd-ymosododd yr Iddewon hefyd, gan ddywedyd mai felly yr oedd hyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r arweinwyr Iddewig eraill yn dechrau ymuno i mewn, a mynnu mai dyna'r gwir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymunodd yr Iddewon hefyd yn y cyhuddo, gan daeru mai felly yr oedd hi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iuddewon hefyd a gyd‐ymosodasant, gan daeru fod y pethau hyn felly.