Acts 25:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Paul a ddyvot, Ydd wyf yn sefyll wrth vrawdle Caisar, lle y perthyn vy‐barny: ir Iuddaeon ny wneythym i ddim yngham, megis ac y gwyddos‐ti yn dda ddigon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd Paul, Ger bron brawd-faingc Cesar yn fy sefyll yr wyf, lle y mae rhaid i mi gael fy marnu. I’r Iwddewon ni wnaethum ddim anghyfiawnder, fel yr wyt ti hefyd yn gwybod yn dda.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd Paul: “Sefyll yr wyf fi ger bron brawdle Cesar, lle y dylid fy marnu. I’r Iddewon ni wneuthum i ddim drwg, fel y gwyddost ti yn eithaf da.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phaul a ddywedodd, O flaen gorseddfainc Cesar yr wyf fi yn sefyll, lle y mae yn rhaid fy marnu: ni wneuthum i ddim cam â'r Iddewon, megis y gwyddost ti yn dda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Paul: “Dw i yma'n sefyll o flaen llys Cesar, a dyna lle dylid gwrando'r achos. Dych chi'n gwybod yn iawn fy mod i heb wneud dim yn erbyn yr Iddewon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Paul, "Yr wyf fi'n sefyll gerbron llys Cesar, lle y dylid fy marnu. Ni throseddais o gwbl yn erbyn yr Iddewon, fel y gwyddost ti yn eithaf da.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Paul a ddywedodd, Ger bron brawd‐faingc Cesar yr wyf fi yn sefyll, lle y mae yn rhaid i mi gael fy marnu; ni wnaethum i un cam ag Iuddewon, fel yr wyt ti yn dyfod i wybod yn well.