Acts 25:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys, a’ s gwneythym ddim cam, ai dim teilwng o angae, ny wrthðodaf vi varw: ac anid oes dim or cyfryvv betheu ac y maent wy im cyhuddaw, ny all nep vy rroddi yddwynt: appelo ydd wyf ar Caisar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os yn wir, gan hyny, gwneud anghyfiawnder yr wyf, a rhyw beth yn haeddu angau a wnaethum, ni ofynaf beidio â marw; ond os nad oes dim o’r pethau y mae y rhai hyn yn fy nghyhuddo o honynt, nid oes neb a all fy rhoddi iddynt. At Cesar yr appeliaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os troseddwr wyf ac os gwneuthum i ddim yn haeddu marwolaeth, nid wyf yn gwrthod marw; eithr onid oes dim yn yr hyn y cyhudda y rhain fi, ni all neb fy rhoddi o ffafr iddynt. At Gesar yr wyf yn apelio.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os ydwyf yn gwneuthur cam, ac os gwneuthum ddim yn haeddu angau, nid wyf yn gwrthod marw: eithr onid oes dim o'r pethau y mae'r rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni ddichon neb fy rhoddi iddynt. Apelio yr wyf at Gesar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydw i wedi gwneud rhywbeth sy'n haeddu'r gosb eithaf, dw i'n fodlon marw. Ond, os nad ydy'r cyhuddiadau yma'n wir, does gan neb hawl i'm rhoi fi yn eu dwylo nhw. Felly dw i'n cyflwyno apêl i Gesar!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fodd bynnag, os wyf yn droseddwr, ac os wyf wedi gwneud rhywbeth sy'n haeddu marwolaeth, nid wyf yn ceisio osgoi dedfryd marwolaeth. Ond os yw cyhuddiadau'r bobl hyn yn fy erbyn yn ddi-sail, ni all neb fy nhrosglwyddo iddynt fel ffafr. Yr wyf yn apelio at Gesar."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny os wyf yn gwneuthur cam, ac wedi gweithredu dim yn haeddu angau, nid wyf yn gwrthod marw: eithr os nad oes dim o'r pethau o'r rhai y mae y rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni all neb fy rhoddi i fyny iddynt. At Cesar yr wyf yn apelio.