Acts 25:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy yddwynt aros yno lawer o ddyddiae, Festus a venagawdd ir Brenhin vater Paul, gan ddywedyt: Y mae yma ryw wr wedy ei adael yn‐carchar y gan Felix.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan llawer o ddyddiau a dreuliasant yno, Ffestus a roddodd o flaen y brenhin fatterion Paul, gan ddywedyd, Rhyw ddyn sydd wedi ei adael gan Ffelics yn rhwym;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan eu bod yn treulio dyddiau lawer yno, fe roes Ffestus achos Paul ger bron y brenin, gan ddywedyd, “Y mae yma ryw ŵr a adawyd gan Ffelix yn garcharor, a phan
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt aros yno lawer o ddyddiau, Ffestus a fynegodd i'r brenin hanes Paul, gan ddywedyd, Y mae yma ryw ŵr wedi ei adael gan Ffelix yng ngharchar:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Buon nhw yno am rai dyddiau, a buodd Ffestus yn trafod achos Paul gyda'r brenin. “Mae yma ddyn sydd wedi ei adael gan Ffelics yn garcharor,” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan eu bod yn treulio dyddiau lawer yno, cyflwynodd Ffestus achos Paul i sylw'r brenin. "Y mae yma ddyn," meddai, "wedi ei adael gan Ffelix yn garcharor,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel y treulient yno lawer o ddyddiau, Ffestus a osododd o flaen y brenhin achos Paul, gan ddywedyd, Y mae rhyw wr wedi ei adael gan Ffelix yn garcharor,