Acts 25:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
I ba ’r ei ydd atebeis, nad yw moes y Ruveinieit, er bodd‐roddy nep i angae, cyn noc y caffo yr vn a gyhuddic, ei gyhuddwyr ger ei vron, a’ chaffael o honaw le y amddyffyn e h un, am y caredd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wrth y rhai yr attebais nad yw arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i fynu cyn i’r cyhuddol gael y cyhuddwyr o flaen ei wyneb, a chael cyfleusdra i amddiffyn ei hun ynghylch y cyhuddiad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebais iddynt nad arfer Rhufeinwyr oedd rhoi o ffafr neb rhyw ddyn hyd oni chaffai’r cyhuddedig ei gyhuddwyr o flaen ei wyneb, a chael cyfle i’w amddiffyn ei hun ynghylch yr achwyniad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r rhai yr atebais, nad oedd arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i'w ddifetha, nes cael o'r cyhuddol ei gyhuddwyr yn ei wyneb, a chael lle i'w amddiffyn ei hun rhag y cwyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Esboniais bod cyfraith Rhufain ddim yn dedfrydu unrhyw un heb achos teg, a chyfle i'r person sy'n cael ei gyhuddo amddiffyn ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebais hwy nad oedd yn arfer gan Rufeinwyr drosglwyddo unrhyw un fel ffafr cyn bod y cyhuddedig yn dod wyneb yn wyneb 'i gyhuddwyr, ac yn cael cyfle i'w amddiffyn ei hun yn erbyn y cyhuddiad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
I'r rhai yr atebais nad yw arfer i Rufeinwyr i roddi i fyny un dyn, nes i'r cyhuddedig gael y cyhuddwyr wyneb yn wyneb, a chael cyfle i wneyd ymddiffyniad ynghylch y cyhuddiad.