Acts 25:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wrth hyny gwedy ei dyvot wy yma, eb ’olydd y dydd cyntaf rac llavv ydd eisteddais yn y vrawdle ac a ’orchymynais ðwyn y gwr ger bron.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wedi dyfod o honynt ynghyd, gan hyny, yma, dim oed ni wnaethum, ond trannoeth gan eistedd ar y frawd-faingc, gorchymynais ddwyn y gŵr ger bron;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly deuthant ynghyd yma, a heb oedi dim eisteddais drannoeth ar y frawdle, a gorchmynnais ddwyn y gŵr ger bron.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi eu dyfod hwy yma gan hynny, heb wneuthur dim oed, trannoeth mi a eisteddais ar yr orseddfainc, ac a orchmynnais ddwyn y gŵr gerbron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly pan ddaethon nhw yma dyma fi'n trefnu i'r llys eistedd y diwrnod wedyn, a gwrando'r achos yn erbyn y dyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, pan ddaethant ynghyd yma, heb oedi dim cymerais fy lle drannoeth yn y llys, a gorchymyn dod 'r dyn gerbron.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny, wedi dyfod o honynt ynghyd yma, heb wneyd unrhyw oediad, tranoeth mi a eisteddais ar y faingc, ac a orchymynais ddwyn y gwr gerbron: am yr hwn,