Acts 25:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
n amyn bot ganthwynt ryw gwestionae am y gwangoel yddynt y hunain, ac am vn Iesu a vu varw, yr hwn a daerei Paul ei vot yn vyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond rhyw gwestiynau ynghylch eu Crefydd eu hunain oedd ganddynt yn ei erbyn, ac ynghylch rhyw Iesu a fu farw, yr Hwn y dywedai Paul Ei fod yn fyw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond rhyw ddadleuon oedd rhyngddynt ac ef ynghylch eu crefydd eu hunain ac ynghylch rhyw Iesu sydd wedi marw, ond y dywedai Paul ei fod yn fyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef ryw ymofynion ynghylch eu coelgrefydd eu hunain, ac ynghylch un Iesu a fuasai farw, yr hwn a daerai Paul ei fod yn fyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn lle hynny roedd y ddadl i gyd am ryw fanion yn eu crefydd nhw, ac am ryw ddyn o'r enw Iesu oedd wedi marw — ond roedd Paul yn mynnu ei fod yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond rhyw ddadleuon oedd ganddynt ag ef ynghylch eu crefydd eu hunain, ac ynghylch rhyw Iesu oedd wedi marw, ond y mynnai Paul ei fod yn fyw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond rhyw gwestiynau ynghylch eu Crefydd eu hunain oedd ganddynt yn ei erbyn, ac ynghylch rhyw Iesu oedd wedi marw, yr hwn a daerai Paul ei fod yn fyw.