Acts 25:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr can ðarvot iddaw apello y ny gedwit ef i wybyðyeth Augustus, mi ’orchymynais ei gadw, ydd pan ðanvonwn ef at Caisar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a Paul wedi appelio i’w gadw am benderfyniad Augustus, gorchymynais ei gadw nes y danfonwn ef i fynu at Cesar.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond gan i Baul apelio am gael ei gadw i’w brofi gan ei Fawrhydi, gorchmynnais ei gadw hyd oni throsglwyddwn ef i Gesar.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr gwedi i Paul apelio i'w gadw i wybyddiaeth Augustus, mi a erchais ei gadw ef hyd oni allwn ei anfon ef at Gesar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Paul yn gwneud apêl i'r achos gael ei ohirio a'i drosglwyddo i uchel-lys o flaen ei fawrhydi yr Ymerawdwr. Felly dw i wedi gorchymyn iddo gael ei gadw yn y ddalfa nes daw cyfle i'w anfon at Cesar.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gan i Paul apelio am gael ei gadw dan warchodaeth, i gael dyfarniad gan yr Ymerawdwr, gorchmynnais ei gadw felly nes imi ei anfon at Gesar."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond Paul wedi apelio i gael ei gadw i ddyfarniad Augustus, mi a orchymynais ar iddo gael ei gadw nes y danfonwn ef i fyny at Cesar.