Acts 25:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thranoeth wedy dyvot Agrippa a’ Bernice a rhwysc mawr, a’ myned i mewn ir Orseð y gyd a’r pen‐capteinieit a’ phendevigion y dinas, wrth ’orchymyn Festus y ducpwyt Paul yno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trannoeth, gan hyny, wedi dyfod o Agrippa a Bernice, gyda llawer o rwysg, ac wedi myned i mewn o honynt i’r gwrandaw-le ynghyda’r milwriaid a phendefigion y ddinas, ac wedi gorchymym o Ffestus, dygpwyd Paul ger bron.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly drannoeth, wedi i Agripa a Bernice ddyfod yn fawr eu rhwysg, a myned i mewn i’r llys ynghyd â chapteniaid a gwŷr mawr y ddinas, ar orchymyn Ffestus fe ddygwyd Paul ger bron.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trannoeth gan hynny, wedi dyfod Agripa a Bernice, â rhwysg fawr, a myned i mewn i'r orsedd, â'r pen‐capteiniaid a phendefigion y ddinas, wrth orchymyn Ffestus fe a ddygwyd Paul gerbron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, y diwrnod wedyn dyma'r Brenin Herod Agripa a Bernice yn cyrraedd y neuadd lle roedd y gwrandawiad i'w gynnal. Roedd yn achlysur crand iawn, gyda penaethiaid y fyddin a phobl bwysig y ddinas i gyd yno. Dyma Ffestus yn gorchymyn dod â Paul i mewn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trannoeth, felly, daeth Agripa a Bernice, yn fawr eu rhwysg, a mynd i mewn i'r llys ynghyd chapteiniaid a gwu375?r amlwg y ddinas; ac ar orchymyn Ffestus, daethpwyd Paul gerbron.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Tranoeth gan hyny, wedi dyfod o Agrippa a Bernice gyda llawer o rwysg, ac wedi myned i mewn o honynt i'r wrandaw‐fa gyda Milwriaid a gwŷr enwog y Ddinas, ac wedi gorchymyn o Ffestus, Paul a ddygwyd gerbron.