Acts 25:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y ’syganei Festus, A vrenhin Agrippa, a’ chvvithe pawp ys ydd yn presen t ol yma gyd a ni, ys gwelwch y dyn hwn, o bleit pa vn y galwodd oll tyrfa yr Iuddaeon arnaf, bop vn yn‐Gaerusalem, ac yma, gan arth lefain, na ddlei ef gael byw a vei hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd Ffestus, Agrippa frenhin, a’r holl wŷr yn bresennol gyda ni, gwelwch y dyn hwn, ynghylch yr hwn holl liaws yr Iwddewon a ymbiliasant â mi yn Ierwshalem ac yma, gan waeddi na ddylai efe fyw yn hwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ebe Ffestus, “Agripa frenin, a chwi wŷr oll sydd yma gyda ni, gwelwch hwnyma; holl liaws yr Iddewon a ddeisyfodd arnaf yn ei gylch yng Nghaersalem ac yma, gan lefain na ddylai gael byw yn hwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Ffestus a ddywedodd, O frenin Agripa, a chwi wŷr oll sydd gyda ni yn bresennol, chwi a welwch y dyn hwn, oblegid pa un y galwodd holl liaws yr Iddewon arnaf fi, yn Jerwsalem ac yma, gan lefain na ddylai efe fyw yn hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna meddai Ffestus, “Y Brenin Agripa, a phawb arall sydd yma heddiw. Mae'r Iddewon yma ac yn Jerwsalem wedi gwneud cais am y dyn yma — maen nhw wedi gwneud twrw ofnadwy fod rhaid iddo farw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Ffestus, "Y Brenin Agripa, a chwi oll sydd yma gyda ni, yr ydych yn gweld y dyn hwn, y gwnaeth holl liaws yr Iddewon gais gennyf yn ei gylch, yn Jerwsalem ac yma, gan weiddi na ddylai gael byw ddim mwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Ffestus a ddywed, O Frenhin Agrippa, a chwi wyr oll sydd yn bresenol gyda ni, chwi a welwch hwn, ynghylch yr hwn holl luaws yr Iuddewon a erfyniasant arnaf yn Jerusalem ac yma, gan lefaru na ddylai efe fyw yn hwy.