Acts 25:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am pa vn nid oes genyf ddim talgrwn yw escriveny at vy Arglwydd: erwyd pa bleit mi y dygais ef atoch, ac yn enwedic atta ti, Vrenhin Agrippa, yd pan yw yn ol darvot ei holi, gaffael o honof beth yw escrivenny.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
am yr hwn nid oes genyf ddim sydd sicr i’w ysgrifenu at fy arglwydd. Gan hyny, dygais ef ymlaen ger eich bron, ac yn enwedig ger dy fron di, frenhin Agrippa, fel, holiad wedi ei wneuthur, y bo genyf ryw beth a ysgrifenaf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond nid oes gennyf ddim sicr i’w sgrifennu amdano at fy Arglwydd; gan hynny, dygais ef ymlaen ger eich bron chwi ac yn enwedig ger dy fron di, frenin Agripa, fel wedi cynnal ymholiad y caffwyf beth i’w sgrifennu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am yr hwn nid oes gennyf ddim sicrwydd i'w ysgrifennu at fy arglwydd. Oherwydd paham mi a'i dygais ef ger eich bron chwi, ac yn enwedig ger dy fron di, O frenin Agripa; fel, wedi ei holi ef, y caffwyf ryw beth i'w ysgrifennu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond does gen i ddim byd pendant i'w ddweud wrth ei fawrhydi amdano. Felly dw i wedi ei alw o'ch blaen chi i gyd, ac yn arbennig o'ch blaen chi, frenin Agripa. Dw i'n gobeithio y bydd gen i rywbeth i'w ysgrifennu amdano ar ôl yr ymholiad swyddogol yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid oes gennyf ddim byd pendant i'w ysgrifennu amdano at ein Harglwydd. Gan hynny, yr wyf wedi dod ag ef ymlaen ger eich bron chwi, ac yn enwedig ger dy fron di, y Brenin Agripa, er mwyn gwneud archwiliad, a chael rhywbeth i'w ysgrifennu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
am yr hwn nid oes genyf unryw beth sicr i'w ysgrifenu at fy arglwydd. Am hyny dygais ef yn mlaen ger eich bron chwi, ac yn enwedig ger dy fron di, O Frenhin Agrippa, fel, wedi i'r holiad gymeryd lle, y bo genyf rywbeth a ysgrifenaf.