Acts 25:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ chan erchy caredigrwydd yn ei erbyn, bod iddo ddanvon am danaw i Gaerusalem; ac hvvy a wnaethant gynllwyn yw ladd ef ar y ffordd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a deisyfiasant arno, gan ofyn ffafr yn ei erbyn ef, y danfonai am dano i Ierwshalem, gan wneuthur cynllwyn i’w ladd ef ar y ffordd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a deisyfent arno gan ofyn, yn ffafr yn erbyn Paul, am iddo anfon amdano i Gaersalem, a hwythau’n gwneuthur cynllwyn i’w ladd ef ar y ffordd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan geisio ffafr yn ei erbyn ef, fel y cyrchai efe ef i Jerwsalem, gan wneuthur cynllwyn i'w ladd ef ar y ffordd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n gofyn iddo anfon Paul yn ôl i Jerwsalem fel ffafr iddyn nhw. (Eu bwriad oedd ymosod arno a'i ladd pan oedd ar ei ffordd).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn ceisio gan Ffestus eu ffafrio hwy yn ei erbyn ef, yn deisyf am iddo anfon amdano i Jerwsalem, ac ar yr un pryd yn gwneud cynllwyn i'w ladd ar y ffordd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a ymbiliasant ag ef, gan geisio ffafr yn ei erbyn, fel y danfonai efe am dano ef i Jerusalem, gan wneuthur cynllwyn i'w ladd ef ar y ffordd.