Acts 25:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny (eb yr ef) dauet yr ei o hanoch chwi ’sy yn abl, y gyd a ni i waeret: ac a d oes neb anvviredd yn y gwr cyhuddant ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, ebr efe, y rhai galluog yn eich plith, wedi myned i wared gyda mi, os oes yn y dyn ryw beth allan o’i le, cyhuddant ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Felly,” meddai, “deued i lawr gyda mi y rhai sydd ag awdurdod yn eich plith, ac od oes dim allan o’i le yn y gŵr, cyhuddent ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai gan hynny a allant yn eich mysg, eb efe, deuant i waered gyda mi, ac od oes dim drwg yn y gŵr hwn, cyhuddant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Caiff rhai o'ch arweinwyr chi fynd gyda mi a'i gyhuddo yno, os ydy e wedi gwneud rhywbeth o'i le.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Felly," meddai, "gadewch i'r gwu375?r sydd ag awdurdod yn eich plith ddod i lawr gyda mi a'i gyhuddo ef, os yw'r dyn wedi gwneud rhywbeth o'i le."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny, eb efe, eled y rhai galluog yn eich mysg i waered gyda mi, ac od oes dim yn y gwr allan o le, bydded iddynt ei gyhuddo ef.