Acts 25:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pryt na thrigesei ef yn y plith wy y tuhwnt y ddec die rnot, ef aeth y waeret y Caisareia, a’r dydd nesaf ydd eisteddawdd yn y vrawdle, ac a ’orchymynawdd ddwyn Paul atavv.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi aros yn eu plith rai dyddiau, nid mwy nag wyth neu ddeg, wedi myned i wared i Cesarea, trannoeth, gan eistedd ar y frawd-faingc, y gorchymynodd i Paul gael ei ddwyn ger ei fron;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo dreulio yn eu plith nid mwy nag wyth neu ddeng niwrnod, fe aeth i lawr i Gesarea, a thrannoeth fe eisteddodd ar y frawdle a gorchymyn dwyn Paul ger bron.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phryd na thrigasai efe gyda hwy dros ddeng niwrnod, efe a aeth i waered i Cesarea; a thrannoeth efe a eisteddodd yn yr orsedd, ac a archodd ddwyn Paul ato.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Buodd Ffestus yn Jerwsalem am ryw wyth i ddeg diwrnod, yna aeth yn ôl i Cesarea. Yna'r diwrnod wedyn cafodd Paul ei alw o flaen y llys.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arhosodd Ffestus gyda hwy am wyth neu ddeg diwrnod ar y mwyaf. Yna aeth i lawr i Gesarea, a thrannoeth cymerodd ei le yn y llys a gorchymyn dod Paul gerbron.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi treulio yn eu plith rai dyddiau, nid mwy nag wyth neu ddeg, efe a aeth i waered i Cesarea, a thranoeth wedi eistedd ar y faingc, efe a orchymynodd ar i Paul gael ei ddwyn gerbron;