Acts 25:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy ei ddyvot, yr Iuddaeon y ddaethent o Gaerusalem, a safasont o ei amgylch, ac a ddodesont lawer o achwyniō trymion yn erbyn Paul, yr ei ny ellynt ei provi,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi dyfod o hono, o’i amgylch y safodd yr Iwddewon a ddaethent i wared o Ierwshalem; a llawer o gyhuddiadau, a thrymion hefyd, a ddygasant yn ei erbyn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo ddyfod fe safodd yr Iddewon, a ddeuthai i lawr o Gaersalem, o’i amgylch, gan ddwyn yn ei erbyn lawer o achwynion trwm,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ei ddyfod, yr Iddewon a ddaethent o Jerwsalem i waered, a safasant o'i amgylch, ac a ddygasant lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul, y rhai nis gallent eu profi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y llys dyma'r Iddewon o Jerwsalem yn casglu o'i gwmpas, a dwyn nifer o gyhuddiadau difrifol yn ei erbyn, er bod dim modd profi dim un ohonyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ymddangosodd Paul, safodd yr Iddewon oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem o'i amgylch, gan ddwyn llawer o gyhuddiadau difrifol yn ei erbyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac wedi ei ddyfod, yr Iuddewon a ddaethent i waered o Jerusalem a safasant o'i amgylch, gan ddwyn cyhuddiadau, llawer a thrymion, yn ei erbyn, y rhai ni allent eu profi;