Acts 25:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
can yddaw vot yn atep, na ddaroeð yddaw pechy dim nac yn erbyn Deddyf yr Iuddaeon, nac yn erbyn y Templ, nac yn erbyn Caisar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai ni allent eu profi, a Paul yn amddiffyn ei hun, gan ddywedyd, Nac yn erbyn Cyfraith yr Iwddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar ni phechais ddim.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
na allent eu profi, a Phaul yn ateb: “Ni throseddais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon nac yn erbyn y Deml nac yn erbyn Cesar.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yntau yn ei amddiffyn ei hun, Ni phechais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Paul yn cyflwyno ei amddiffyniad: “Dw i ddim wedi torri'r Gyfraith Iddewig na gwneud dim yn erbyn y Deml yn Jerwsalem na'r llywodraeth Rufeinig chwaith.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni allent eu profi yn wyneb yr hyn a ddywedodd Paul yn ei amddiffyniad: "Nid wyf fi wedi troseddu o gwbl, nac yn erbyn Cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a Phaul yn ymddiffyn ei hun: Ni phechais i ddim, eb efe, nac yn erbyn Cyfraith yr Iuddewon, nac yn erbyn y Deml, nac yn erbyn Cesar.