Acts 25:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er hyny Festus yn ewyllysiaw cahel bodd yr Iuddaeon, a atebawdd i Paul, gan ddywedyt, Ai di y vyn y dd y Gaerusalē, ac yno ith varny am y pethe hyn ger vy‐bron i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Ffestus yn ewyllysio ynnill ffafr gyda’r Iwddewon, gan atteb i Paul, a ddywedodd, A ewyllysi di, wedi myned i fynu i Ierwshalem, gael dy farnu yno ynghylch y pethau hyn ger fy mron?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond gan y dymunai Ffestus osod yr Iddewon dan rwymau iddo, fe atebodd i Baul a dywedyd: “A fynni di fynd i fyny i Gaersalem, ac yno dy farnu ger fy mron i am y pethau hyn?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Ffestus, yn chwennych dangos ffafr i'r Iddewon, a atebodd Paul, ac a ddywedodd, A fynni di fyned i fyny i Jerwsalem, i'th farnu yno ger fy mron i am y pethau hyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond gan fod Ffestus yn awyddus i wneud ffafr i'r Iddewon, gofynnodd i Paul, “Wyt ti'n barod i fynd i Jerwsalem i sefyll dy brawf o'm blaen i yno?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gan fod Ffestus yn awyddus i ennill ffafr yr Iddewon, gofynnodd i Paul, "A wyt ti'n fodlon mynd i fyny i Jerwsalem a chael dy farnu yno ger fy mron i am y pethau hyn?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Ffestus yn ewyllysio enill ffafr gyda'r Iuddewon, gan ateb i Paul a ddywedodd, A ewyllysi di fyned i fyny i Jerusalem, i'th farnu yno ynghylch y pethau hyn ger fy mron?