Acts 26:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hynn beth a wnaethym i yn‐Caerusalem: can ys llawer o’r Sainct a ’orchaeais yn‐carchar oedd, can vot genyf awturtat o ywrth yr Archofferait: ac wrth ei divetha, y rhoddeis varn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hyn hefyd a wnaethum yn Ierwshalem; a llawer hefyd o’r saint myfi a gauais mewn carcharau, wedi derbyn yr awdurdod gan yr archoffeiriaid; a phan laddwyd hwy, yn eu herbyn y rhoddais fy llais.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a hyn a wneuthum yng Nghaersalem, a llawer o’r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi cael yr awdurdod oddiwrth yr Archoffeiriaid, a phan oeddid am eu difetha rhoddais fy mhleidlais yn eu herbyn;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hyn hefyd a wneuthum yn Jerwsalem: a llawer o'r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr archoffeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna wnes i: ces i awdurdod gan y prif offeiriaid yn Jerwsalem i daflu nifer fawr o Gristnogion i'r carchar. Roeddwn i'n un o'r rhai oedd o blaid rhoi'r gosb eithaf iddyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a gwneuthum hynny yn Jerwsalem. Ar awdurdod y prif offeiriaid, caeais lawer o'r saint mewn carcharau, a phan fyddent yn cael eu lladd, rhoddais fy mhleidlais yn eu herbyn;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hyn hefyd a wnaethum yn Jerusalem: a llawer o'r Saint hefyd a gauais i i fyny mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr Arch‐offeiriaid; a phan yn cael eu rhoddi i farwolaeth, mi a roddais bleidlais yn eu herbyn.