Acts 26:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi y poeneis wy yn vynech drwy yr oll Synagogae, ac ei cympelleis i gably, a’ chan ynfydy ym‐pel’ach yn y herbyn wy, mi ei herlidiais, h yd ar ddinasoedd estrō.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn yr holl sunagogau, llawer gwaith, gan eu cospi y cymhellwn hwynt i gablu; a thros ben allan o’m pwyll yn eu herbyn, erlidiwn hwynt hyd y dinasoedd estronol hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yn yr holl synagogau lawer gwaith y cosbais hwynt a cheisio eu gorfodi i gablu, ac a mi’n ynfyd wrthynt dros fesur erlidiwn hwynt hyd yn oed i’r dinasoedd tu allan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ym mhob synagog yn fynych mi a'u cosbais hwy, ac a'u cymhellais i gablu; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn, mi a'u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddwn i'n mynd o un synagog i'r llall i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cosbi, ac yn ceisio eu gorfodi nhw i gablu. Roedd y peth yn obsesiwn gwyllt gen i, ac roeddwn i hyd yn oed yn teithio i wledydd tramor i'w herlid nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a thrwy'r holl synagogau mi geisiais lawer gwaith, trwy gosb, eu gorfodi i gablu. Yr oeddwn yn enbyd o ffyrnig yn eu herbyn, ac yn eu herlid hyd ddinasoedd estron hyd yn oed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thrwy yr holl Synagogau yn fynych yr oeddwn yn eu cospi, ac yn eu gorfodi i gablu; a chan fod yn ynfyd dros ben yn eu herbyn, yr oeddwn yn eu herlid hyd y nod i ddinasoedd tu allan i'n gwlad.