Acts 26:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ar hanner dydd, a’ Vrenhin, ar y ffordd y gwelais le u ver or nef oedd, yn ragori ar ddysclaerdap yr haul, yn towynny om amgylch, mi ar ei oeðynt yn ymðeith y gyd a ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ar hanner dydd ar y ffordd y gwelais, O frenhin, oleuni o’r nef, tu hwnt i ddisgleirdeb yr haul, yn disgleirio o’m hamgylch, ac o amgylch y rhai yn myned gyda mi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ganol dydd ar y ffordd mi welais, O frenin, oleuni o’r nef yn disgleirio o’m hamgylch i a’r rhai oedd yn teithio gyda mi, goruwch disgleirdeb yr haul.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ar hanner dydd, O frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o'r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, yn disgleirio o'm hamgylch, a'r rhai oedd yn ymdaith gyda mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hi tua chanol dydd pan roeddwn i ar fy ffordd yno. Yna'n sydyn, eich mawrhydi, dyma olau o'r awyr yn disgleirio o'm cwmpas i a phawb oedd gyda mi. Roedd yn olau llawer mwy tanbaid na'r haul.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gwelais ar y ffordd ganol dydd, O frenin, oleuni mwy llachar na'r haul yn llewyrchu o'r nef o'm hamgylch i a'r rhai oedd yn teithio gyda mi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ar ganol dydd yn y ffordd y gwelais, O Frenhin, Oleuni o'r Nef, tu hwnt i ddysglaerdeb yr haul, yn dysglaerio o'm hamgylch i a'r rhai oedd yn myned gyda mi.