Acts 26:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy daroedd y ni oll ddygwyddo ar yddayar, y clywais lef yn llavaru wrthyf, ac yn dywedyt yn‐tavot Hebreo, Saul, Saul, paam im erlidy? Calet yw yty wingo yn erbyn y swmbylae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r oll o honom wedi syrthio i lawr ar y ddaear, clywais lais yn dywedyd wrthyf yn iaith yr Hebreaid, Shawl, Shawl, paham mai myfi a erlidi? Caled i ti yw gwingo yn erbyn y symbylau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Syrthiasom oll i’r llawr, a chlywais lais yn dywedyd wrthyf yn yr iaith Hebraeg, ‘Saul, Saul, paham y’m herlidi? Garw i ti yw gwingo yn erbyn symbylau.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaear, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd yn Hebraeg, Saul, Saul, paham yr ydwyt yn fy erlid i? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ni i gyd yn disgyn ar lawr, a chlywais lais yn siarad â mi yn Hebraeg, ‘Saul, Saul, pam rwyt ti'n fy erlid i? Dim ond gwneud drwg i ti dy hun wyt ti wrth dynnu'n groes i mi.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syrthiodd pob un ohonom ar y ddaear, a chlywais lais yn dweud wrthyf yn iaith yr Iddewon, 'Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i? Y mae'n galed iti wingo yn erbyn y symbylau.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan yr oeddem oll wedi syrthio ar y ddaear, clywais lais yn dywedyd wrthyf yn y briod‐iaith Hebraeg, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Caled i ti wingo yn erbyn y symbylau.