Acts 26:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr cyvod y vyny a’ sa ar dy draet: can ys er mwyn hynn yr ymddangoseis yty sef er dy ’osot ti yn’wenidawc ac yn test, ys am y pethae’ry weleist, ac am y pethae yn yr ei y ymddangosaf yty,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys er hyn yr ymddangosais i ti, i’th osod yn weinidog ac yn dyst yn gystal o’r pethau yn y rhai y gwelaist Fi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr cyfod a saf ar dy draed; canys i hyn yr ymddangosais i ti — i’th ragordeinio di yn was, ac yn dyst o’r hyn a welaist ohonof ac o’r hyn a welir ohonof gennyt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i'th osod di yn weinidog ac yn dyst o'r pethau a welaist, ac o'r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cod ar dy draed. Dw i wedi dy ddewis di i fod yn was i mi. Dw i am i ti ddweud wrth bobl am beth sydd wedi digwydd, ac am bopeth arall bydda i'n ei ddangos i ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cod a saf ar dy draed; oherwydd i hyn yr wyf wedi ymddangos i ti, sef i'th benodi di yn was imi, ac yn dyst o'r hyn yr wyt wedi ei weld, ac a weli eto, ohonof fi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr cyfod i fyny, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i'th osod yn wâs ac yn dyst o'r pethau a welaist, ac o'r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt;