Acts 26:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
er yty agory ei llygait, ac ymchwelyt o hanwynt y wrth dywyllwc h i ’oleuni, ac ywrth veðiant Satan ar Ddew, yn y dd erbyniont vaddeuant pechotae, ac etiveddiaeth ym‐plith yr ei, a sancteiddiwyt trwy ffydd yno vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
er mwyn troi o honynt o dywyllwch i oleuni, ac o awdurdod Satan at Dduw, er mwyn derbyn o honynt faddeuant pechodau ac etifeddiaeth ym mysg y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd Ynof.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y rhai yr wyf yn dy anfon atynt i agoryd eu llygaid, i droi ohonynt o dywyllwch i oleuni ac oddiwrth awdurdod Satan at Dduw, fel y caffont faddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a santeiddiwyd trwy ffydd — eu ffydd ynof fi.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran ymysg y rhai a sancteiddiwyd, trwy'r ffydd sydd ynof fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
i agor eu llygaid nhw er mwyn iddyn nhw droi o dywyllwch i oleuni, a dianc o afael Satan at Dduw. Bydda i'n maddau eu pechodau nhw, a byddan nhw'n cael perthyn i'r bobl hynny sydd wedi eu gwneud yn lân drwy gredu ynof fi.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
i agor eu llygaid, a'u troi o dywyllwch i oleuni, o awdurdod Satan at Dduw, er mwyn iddynt gael maddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd ynof fi.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
i agoryd eu llygaid, fel y troant o dywyllwch i oleuni, ac o awdurdod Satan at Dduw, fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran yn mhlith y rhai Sancteiddiedig, trwy ffydd yr hon sydd ynof Fi.