Acts 26:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ys dedwydd y tybiaf vy‐bot vy h un Vrēhin Agrippa, can y mi gahel atep heddyw geyr dy vron di, am bop peth im cyhuddir y gan yr Iuddaeon:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ynghylch yr holl bethau y cyhuddir fi o honynt gan yr Iwddewon, frenhin Agrippa, tybiaf fy hun yn ddedwydd gan mai ger dy fron di yr wyf ar fedr amddiffyn fy hun heddyw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Am yr holl bethau yr achwynir yn fy erbyn gan Iddewon, frenin Agripa, fe’m hystyriaf fy hun yn ddedwydd o gael fy amddiffyn fy hun heddiw ger dy fron di,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, O frenin Agripa, gan fy mod yn cael fy amddiffyn fy hun ger dy fron di heddiw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Y Brenin Agripa, dw i'n cyfri'n hun yn ffodus iawn mai o'ch blaen dw i'n sefyll yma heddiw i amddiffyn fy hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yr wyf yn f'ystyried fy hun yn ffodus, y Brenin Agripa, mai ger dy fron di yr wyf i'm hamddiffyn fy hun heddiw ynglu375?n 'r holl gyhuddiadau y mae'r Iddewon yn eu dwyn yn fy erbyn,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am yr holl bethau o'r rhai y'm cyhuddir gan Iuddewon, O Frenhin Agrippa, tybiwyf fy hun yn ddedwydd pan ar fedr gwneyd ymddiffyniad ger dy fron di heddyw;