Acts 26:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ani d dangos yn gyntaf ydd wyntwy o Damasco, ac yn‐Caersalem, a’ thrwy oll or wlat Iudaia, ac yno ir Cenedloedd, er yddwynt edivarhay, ac ymchwelyt ar Ddew, a’ gwneythy gweithredoedd a vei teilwng i wellaat buchedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr i’r rhai yn Damascus yn gyntaf, ac Ierwshalem hefyd, a thrwy holl wlad Iwdea, ac i’r cenhedloedd y mynegais ar edifarhau a throi at Dduw, gan wneuthur gweithredoedd teilwng o edifeirwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr i’r rhai yn Namascus yn gyntaf ac yng Nghaersalem, a thrwy holl wlad Iwdea, a hefyd i’r Cenhedloedd y cyhoeddwn edifarhau a throi at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd teilwng o’u hedifeirwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr mi a bregethais i'r rhai yn Namascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thros holl wlad Jwdea, ac i'r Cenhedloedd; ar iddynt edifarhau, a dychwelyd at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd addas i edifeirwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi bod yn dweud wrth bobl fod rhaid iddyn nhw droi cefn ar eu pechodau a throi at Dduw — a byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod wedi newid go iawn. Gwnes i hynny gyntaf yn Damascus, ac wedyn yn Jerwsalem ac ar draws Jwdea, a hefyd i bobl o genhedloedd eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond bm yn cyhoeddi i drigolion Damascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thrwy holl wlad Jwdea, ac i'r Cenhedloedd, eu bod i edifarhau a throi at Dduw, a gweithredu yn deilwng o'u hedifeirwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr i'r rhai yn Damascus yn gyntaf, a Jerusalem, a thrwy holl wlad Judea, ac i'r Cenhedloedd y traethais y dylent edifarhâu a throi at Dduw, gan wneuthur gweithredoedd teilwng o edifeirwch.