Acts 26:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er hyny mi gefeis borth y gan Ddew, ac wyf yn aros yd y dydd hwn, gan destolaethy ac i vychan a’ mawr, ac eb dywedyt dim amgen no’r pethae y ðyvawt y Prophwyti a’ Moysen y delei, ys ef yvv hyny,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wedi cael, gan hyny y cymmorth y sydd oddiwrth Dduw, hyd y dydd hwn yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fychain a mawr hefyd, heb ddywedyd dim amgen na’r pethau y bu i’r Prophwydi lefaru am danynt megis ar fedr digwydd, a Mosheh hefyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Swcwr a gefais oddiwrth Dduw hyd y dydd heddiw, ac yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fawr a mân, heb ddywedyd dim yn wahanol i’r pethau y dywedodd y proffwydi eu bod i ddigwydd, a Moesen hefyd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, wedi i mi gael help gan Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gan dystiolaethu i fychan a mawr, ac heb ddywedyd dim amgen nag a ddywedasai'r proffwydi a Moses y delent i ben;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae Duw wedi edrych ar fy ôl i hyd heddiw, a dyna sut dw i'n dal yma i rannu'r neges gyda phawb, yn fach a mawr. Dw i'n dweud dim byd mwy na beth ddwedodd y proffwydi a Moses fyddai'n digwydd —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond mi gefais gymorth gan Dduw hyd heddiw, ac yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fawr a mn, heb ddweud dim ond y pethau y dywedodd y proffwydi, a Moses hefyd, eu bod i ddigwydd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny, wedi cael y cymhorth y sydd oddiwrth Dduw, hyd y dydd hwn yr wyf yn sefyll, gan dystiolaethu i fach a mawr hefyd, heb ddywedyd dim amgen na'r pethau a ddywedasai y Prophwydi a Moses fel ar fedr dyfod i ben: