Acts 26:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
bot i Christ ddyoddef ac yðaw ef vot yn gyntaf a gyvotai o veirw, ac a ddangosei ’oleuni ir popul, ac ir Cenedloedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
mai i ddioddef yr oedd Crist, mai Efe yn gyntaf, trwy adgyfodiad y meirw, oedd ar fedr mynegi goleuni i’r bobl, ac i’r cenhedloedd hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
os i ddioddef y mae’r Crist, os ef yn gyntaf o atgyfodiad y meirw sydd i fynegi goleuni i’r Bobl ac i’r Cenhedloedd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dioddefai Crist, ac y byddai efe yn gyntaf o atgyfodiad y meirw, ac y dangosai oleuni i'r bobl, ac i'r Cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
sef y byddai'r Meseia yn dioddef, ac mai fe fyddai'r cyntaf i ddod yn ôl yn fyw oddi wrth y meirw, yn oleuni i Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
sef bod yn rhaid i'r Meseia ddioddef, a'i fod ef, y cyntaf i atgyfodi oddi wrth y meirw, i gyhoeddi goleuni i bobl Israel ac i'r Cenhedloedd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fod y Crist i ddyoddef, a' i fod Ef y cyntaf, trwy Adgyfodiad y Meirw, i gyhoeddi goleuni i'r Bobl ac i'r Cenhedloedd hefyd.