Acts 26:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mal ydd oedd ef yn atep hynn drostaw ehun, y dyvot Festus a llef vchel, Paul, ydd wyt yn ynvydu: lliaws o ðysc syð ith wneythy’r yn ynvyd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan â’r pethau hyn yr amddiffynodd ei hun, Ffestus â llef uchel a ddywedodd, Allan o’th bwyll yr wyt, Paul; mawredd dy ddysg, i ammhwylldra y’th dry.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fel yr oedd ef yn ei amddiffyn ei hun felly, ebe Ffestus â llef uchel, “Yr wyt yn ynfyd, Paul; dy fawr ddysg sy’n dy yrru yn ynfyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd â llef uchel, Paul, yr wyt ti yn ynfydu; llawer o ddysg sydd yn dy yrru di yn ynfyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn sydyn dyma Ffestus yn gweiddi ac yn torri ar draws ei amddiffyniad, “Dwyt ti ddim yn gall, Paul! Mae dy holl ddysg yn dy yrru di'n wallgof!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar ganol yr amddiffyniad hwn, dyma Ffestus yn gweiddi, "Yr wyt yn wallgof, Paul; y mae dy fawr ddysg yn dy yrru di'n wallgof."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd efe yn y modd hyn yn ymddiffyn ei hun, Ffestus a ddywed a llef uchel, Anmhwyllo ydwyt, Paul; y mae dy fawr ddysg yn dy droi i anmhwylledd.