Acts 26:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y ’saganei Agrippa wrth Paul, Yðwyt o vewn ychydic im annoc y vot yn Christian.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwn dy fod yn credu. Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Rhyw ychydig y perswadi fi, i wneuthur Cristion o honof.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ebe Agripa wrth Baul, “Drwy ychydig y ceisi fy mherswadio i i’m gwneuthur yn Gristion!”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Yr wyt ti o fewn ychydig i'm hennill i fod yn Gristion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wyt ti'n meddwl y gelli di berswadio fi i droi'n Gristion mor sydyn â hynny?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Agripa wrth Paul, "Mewn byr amser yr wyt am fy mherswadio i fod yn Gristion!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Gydag ychydig ti a fynit fy narbwyllo fel i' m gwneuthur i yn Gristion!