Acts 26:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yn bēddivaddae, can dy vot ti yn gwybot o ywrth yr oll ddevodae, a’ chwestionae ’r ysydd ym‐plith yr Iuddaeon: erwydd paam, yr atolygaf yty, vy‐gwrandaw yn ddioddefgar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn enwedig gan dy fod yn gydnabyddus â’r holl ddefodau ymhlith yr Iwddewon, a’r cwestiynnau hefyd; o herwydd paham deisyfiaf arnat fy ngwrando yn amyneddus.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yn enwedig am dy fod yn gyfarwydd yn yr holl ddefodau a chwestiynau Iddewig; gan hynny, crefaf arnat fy ngwrando yn amyneddgar.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn bendifaddau gan wybod dy fod di yn gydnabyddus â'r holl ddefodau a'r holion sydd ymhlith yr Iddewon: oherwydd paham yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n gwbl gyfarwydd ag arferion yr Iddewon a'r pynciau llosg sy'n codi yn ein plith. Felly ga i ofyn i chi, os gwelwch yn dda, wrando ar beth sydd gen i i'w ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn enwedig gan dy fod yn hyddysg yn yr holl arferion a dadleuon a geir ymhlith yr Iddewon. Gan hynny, 'rwy'n erfyn arnat fy ngwrando yn amyneddgar.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn enwedig gan dy fod di yn gydnabyddus â'r holl ddefodau ac hefyd a'r cwestiynau sydd yn mhlith yr Iuddewon; o herwydd paham yr wyf yn deisyf arnat fy ngwrando yn amyneddgar.