Acts 26:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy yddwynt vyned o’r ailltu, wynt a gympwyllesont yn ei plith ehunein, gan ddywedyt, Nid yw’r dyn hwn yn gwneythy dim teilwng o angae, na rrwymae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi cilio o honynt, llefarasant wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Nid oes dim yn haeddu angau neu rwymau a wnaeth y dyn hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi iddynt ymneilltuo, ymddiddan â’i gilydd a dywedyd: “Nid yw’r dyn yma yn gwneuthur dim yn haeddu marwolaeth neu rwymau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt fyned o'r neilltu, hwy a lefarasant wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Nid yw'r dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau, neu rwymau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n sgwrsio wrth fynd allan, “Dydy'r dyn wedi gwneud dim byd i haeddu marw na hyd yn oed ei garcharu,” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac wedi iddynt ymneilltuo, buont yn ymddiddan 'i gilydd gan ddweud, "Nid yw'r dyn yma yn gwneud dim oll sy'n haeddu marwolaeth na charchar."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac wedi ymneillduo, llefarasent wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Nid yw y dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau neu rwymau.