Acts 26:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot Agrippa wrth Festus, Ef ’ellit gellwng y gwr hwnn, pe na bysei iddaw appelo ar Caisar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Ei ollwng ymaith yn rhydd a allasai’r dyn hwn, pe na fuasai iddo appelio at Cesar.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ebr Agripa wrth Ffestus, “Gallasai’r dyn yma fod wedi ei ollwng yn rhydd, pe nad apeliasai at Gesar.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Agripa wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yma ymaith, oni buasai iddo apelio at Gesar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gallet ti ei ollwng yn rhydd oni bai am y ffaith ei fod wedi gwneud apêl i Gesar,” meddai Agripa wrth Ffestus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Agripa wrth Ffestus, "Gallasai'r dyn yma fod wedi cael ei ollwng yn rhydd, onibai ei fod wedi apelio at Gesar."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yn rhydd, pe na fuasai iddo apelio at Cesar.