Acts 26:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am vy‐buchedd om mabolaeth, a’ pha ryw wedd yt oedd hi or dechreat ym‐plith vy‐cenedl aeth vy hyn yn‐Gaerusalem, e wyr yr oll Iuddaeon,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Fy muchedd, gan hyny, o’m hieuengetyd, yr hon, o’r dechreuad, a fu ymhlith fy nghenedl yn Ierwshalem, a ŵyr yr holl Iwddewon,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fy muchedd, ynteu, o febyd, fy mywyd o’r dechrau, ymhlith fy nghenedl y bu ac yng Nghaersalem, fel y gŵyr pob Iddew;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy muchedd i o'm mebyd, yr hon oedd o'r dechreuad ymhlith fy nghenedl yn Jerwsalem, a ŵyr yr Iddewon oll;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'r arweinwyr Iddewig yn gwybod amdana i ers pan o'n i'n blentyn — y blynyddoedd cynnar yn Cilicia, a hefyd y cyfnod fues i yn Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae fy muchedd i o'm mebyd, y modd y bm yn byw o'r dechrau ymhlith fy nghenedl, a hefyd yn Jerwsalem, yn hysbys i bob Iddew.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Fy muchedd yn wir gan hyny o'm mebyd, yr hon fu o'r dechreuad yn mhlith fy nghenedl ac yn Jerusalem, a wyr yr holl Iuddewon,